DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Fframweithiau Cyffredin

DYDDIAD

13 Tachwedd 2018

GAN

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

 

 

Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU adrodd wrth y Senedd yn rheolaidd am faterion yn ymwneud â fframweithiau cyffredin a defnydd Llywodraeth y DU o bwerau dan adran 12 o'r Ddeddf (y 'pwerau rhewi') dros dro i gynnal cyfyngiadau cyfraith bresennol yr UE ar gymhwysedd datganoledig. Mae Rheolau Sefydlog y Cynulliad yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw adroddiad o'r fath gael ei osod gerbron y Cynulliad o fewn un diwrnod i gael ei osod yn Senedd y DU.

 

Gosodwyd yr adroddiad cyntaf o'r fath yn Senedd y DU ar 13 Tachwedd. Gellir gweld yr adroddiad yma

 

https://www.gov.uk/government/publications/the-european-union-withdrawal-act-and-common-frameworks-report

 

Hoffwn dynnu sylw'r aelodau yn benodol at y paragraff olaf yn Rhagair y Gweinidog:

 

“On the basis of the significant joint progress on future frameworks, and the continued collaboration to ensure the statute book is ready for exit day, the UK Government has concluded that it does not need to bring forward any section 12 regulations at this juncture. On this basis, the Scottish and Welsh Governments continue to commit to not diverging in ways that would cut across future frameworks, where it has been agreed that they are necessary or where discussions continue”.